Y penaf drysor heddyw yw,
O fewn y nefoedd, gwaed fy Nuw,
Holl sylwedd y caniadau i gyd;
A dyma'r gwaed
a roddodd iawn,
I bur gyfiawnder nef yn llawn -
Fy hedd a'm cysur yn y byd.
Am iddo farw ar y bryn,
Ca'dd f'enaid bach ei gànu'n wyn,
A'i dynu o'i gadwynau'n rhydd;
"Wel, bellach dan ei haeddiant Ef,
Fel cysgod cedrwydden gref,
Gorphwysaf mwy yn ngwres y dydd.
William Williams 1717-91
Tôn [888D]: Rhosyn Saron (alaw Gymreig) gwelir: Gwnawd concwest ar Galfaria fryn |
The chief treasure today i,
With heaven, the blood of my God,
The whole substance of all the songs;
And here is the blood
that gave Satisfaction,
To the pure righteousness of heaven fully -
My peace and my comfort in the world.
Since he died on the hill,
My little soul got bleached white,
And taken from its chains free;
"See, henceforth un his merit,
Like the shadow of a strong cedar tree,
I shall rest evermore in the day's heat.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|